Cymraeg

Ffeithiau 1916

Beth oedd Gwrthryfel y Pasg? Beth ddigwyddodd ym 1916? Pwy oedd yn ymladd pwy?


Dechreuodd y Saeson feddiannu Iwerddon tua 900 o flynyddoedd yn ôl ac fe’u gwrthwynebwyd yn ffyrnig trwy’r canrifoedd. Cafodd gwrthryfeloedd y Gwyddelod eu rhoi lawr yn waedlyd gan luoedd Lloegr gan arwain at fwy o ddrwgdeimlad gyda rheolaeth estron.

Yn y 16eg ganrif daeth Lloegr yn wlad Brotestannaidd frwd tra arhosodd Iwerddon yn Gatholig. Rhoddwyd  llawer o waharddiadau yn erbyn Catholigion gan arwain at fwy o helynt, rhyfel a gormes.

Ym 1801, yn dilyn gwrthryfel arall gan y Gwyddelod, gorfodwyd Deddf Uno. Daeth Iwerddon o dan reolaeth uniongyrchol Llundain fel rhan o’r Deyrnas Unedig o Loegr, Iwerddon, Yr Alban a Chymru.

Nid oedd rheolaeth uniongyrchol o Lundain yn dda i Iwerddon. Rhwyg 1845 a 1851 bu farw dwy filiwn o bobl o newyn neu bu rhaid iddynt adael Iwerddon. Nid yw poblogaeth Iwerddon byth wedi cyrraedd yn ôl i’r 8 miliwm cyn y newyn mawr.

Arweiniodd blynyddoedd o frwydro dros annibyniaeth o Loegr at ddigwyddiadau Pasg 1916. Meddianwyd adeiladau pwysig gan grwpiau bychan o Wyddelod arfog – y pwysicaf ohonynt oedd  Prif Swyddfa’r Post yn Nulyn. Yma darllenwyd datganiad y weriniaeth annibynnol.

Yn dilyn wythnos o ymladd daeth y gwrthryfel i ben gyda bron i 500 o bobl yn marw a rhannau o Ddilyn wedi’i ddifetha. Wedi achos llys milwrol saethwyd pymtheg o’r arweinwyr gan yr awdurdodau Prydeinig a charcharwyd gweddill y gwrthryfelwyr yn Fron-goch yng Nghymru.

Achosodd saethu’r arweinwyr i lawer mwy o’r bobl gyffredin gefnogi’r gwrthryfelwyr a phan ddychwelon nhw i Ddulyn ym 1917 fe’u croesawyd fel arwyr.

Roedd ymgyrch arfog canlynol gan yr Irish Republican Army newydd, yn llawer mwy llwyddiannus a gorfodwyd Llywodraeth Lloegr i addo tynnu allan o Iwerddon.

Ym 1921, yn dilyn trafodaethau rhwng cynrychiolwyr Gwyddelig (wedi’u harwain gan Michael Collins, un a fu yn Fron-goch) a Llywodraeth Prydain roedd rhaid i’r Gwyddelod arwyddo cytundeb a oedd ond yn rhoi annibyniaeth gyfyngedig i Iwerddon. Yn ôl y cytundeb roedd rhaid i Iwerddon aros fel rhan o Ymerodraeth Prydain ac roedd rhaid i 6 sir Gogledd Iwerddon aros yn rhan o ‘r Deyrnas Unedig.

Roedd llawer o Wyddelod yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu a phenderfynon ddal i ymladd am annibyniaeth gan arwain at ryfel sifil rhwng 1922 a 1923. Enillodd yr ochr a oedd o blaid y cytundeb.

Cyn Gwrthryfel y Pasg ym 1916 roedd Ymerodraeth Prydain y mwyaf a mwyaf grymus yn y byd. Wedi’u sbarduno gan esiampl Iwerddon, brwydrodd pobloedd Affrica ac Asia i’w rhyddhau o reolaeth estron. Pedwar deg o flynyddoedd wedi Gwrthryfel y Pasg roedd Prydain a rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop wedi colli bron y cyfan o’u colonïau tramor.