Cymraeg

Llyfrau Fron-goch

Bydd y llyfrau yma’n ffordd berffaith i wybod mwy am hanes Fron-goch a Gwrthryfel y Pasg.

Mae’r canlynol mewn stoc yn Siop Awen Meirion, Y Bala ac ar gael trwy’r wefan yma.

 

Gwersyll Frongoch Lyn Ebenezer

Gwersyll Fron-Goch 1916 – Y Pair Dadeni
Lyn Ebenezer
Mae Lyn Ebenezer yn olrhain hanes Gwersyll Fron-goch a Gwrthryfel y Pasg.
Mae hefyd yn cynnwys hanes yr hen ddistylfa cyn ei throi’n garchar, ystyried agwedd y carcharorion a phobl yr ardal i’w gilydd a dylanwad ar helynt Tryweryn.

With the Irish in Frongoch
W. J. Brennan-Whitmore

Gwreiddiol: 1917
Ailgyhoeddwyd mewn clawr meddal 2013. Rhagair gan Ruán O’Donnell, Nodiadau gan Mícheál Ó hAodha

Llwyddodd Commandant Brennan-Whitmore a’i ddynion gadw lleoliad wrth Swyddfa’r Bost yn Dulyn am dros saithdeg dwy o oriau yn ystod Gwrthryfel y Pasg. Fe’i anfonwyd i Fron-goch gan y Prydeinwyr tan 1917. Mae llyfr Brennan-Whitmore yn ddogfen llygad-dyst unigryw.

Cyhoeddwyd y gwreiddiol gan The Talbot Press, Dulyn, yn 1917, a bellach yn gyfrol brin a gwerthfawr – ond yn ffodus iawn wedi’i hail gyhoeddi mewn clawr meddal yn 2013.

 

Frongoch Camp 1916 Lyn Ebenezer

Fron-Goch Camp 1916 – and the Birth of the IRA
Lyn Ebenezer

Fersiwn iaith Saesneg o lyfr uchod Lyn Ebenezer.

‘… as fascinating as those books about prisoners in Colditz in the second world war …’
– Peter Berresford Ellis

‘… one of the most readable of historical books.’
An Phoblacht

Mae’r canlynol allan o brint, ond mae Siop Awen Meirion yn gallu cael gafael ar gopïau weithiau. Cofia gysylltu!

Frongoch Sean O Mahony

Frongoch University of Revolution
Sean o Mahony

Published by FDR Teoranta, 1995

, , , , , , , , , ,