O dan arweinyddiaeth Michael Collins, daeth Fron-goch i’w adnabod fel “Prifysgol y Chwyldro”.
Yn dilyn methiant Gwrthryfel y Pasg, 1916 cafodd Collins a miloedd o wrthryfelwyr eraill eu harestio gan yr awdurdodau Prydeinig. Saethwyd llawer o arweinwyr y gwrthryfel yn cynnwys James Connolly a Patrick Pearse. Roedd Collins yn ffodus i beidio cael ei saethu er iddo fod yng nghanol yr ymladd yn Swyddfa Bost Dulyn, Canolbwynt y gwrthryfel. Carcharwyd Collins yn Fron-goch.
Yn Fron-goch daeth yn un o brif drefnwyr y carcharorion yn erbyn y drefn yn y gwersyll. Roedd y gwersyll yn gyfle ardderchog i’r gweriniaethwyr, a oedd wedi bod yn wasgaredig ar draws Iwerddon, fod ynghyd â chyd-drefnu eu camau nesaf a thrafod tactegau ‘guerilla’.
Enillodd Collins barch y carcharorion eraill ac wrth gael ei ryddhau o Fron-goch aeth ymlaen i fod yn un o arweinwyr yr Irish Republican Army (IRA) newydd. Roedd eu hymgyrch arfog canlynol yn llawer mwy llwyddiannus a gorfodwyd llywodraeth Prydain i addo tynnu allan o Iwerddon.
Cafodd Collins y dasg annymunol gan Eamonn de Valera o drafod cytundeb gyda llywodraeth Prydain, yn gwybod yn iawn nad oedd y Prydeinwyr am ildio go iawn i ofynion y gwrthryfelwyr.
Ym 1921, yn dilyn 3 mis o drafodaethau gyda Phrif Weinidog Prydain Lloyd George, ‘roedd rhaid i Collins gytuno i Iwerddon gael dim ond rhywfaint o annibyniaeth yn unig, gan aros yn rhan o Ymerodraeth Prydain ac i 6 sir gogledd Iwerddon aros fel rhan o Brydain.
Wrth arwyddo’r cytundeb dywedodd Collins “I tell you, I have signed my death warrant”.
Pan ddychwelodd i Iwerddon fe’i gyhuddwyd gan lawer – yn cynnwys Eamonn de Valera – o fradychu’r achos ‘roeddynt wedi brwydro a dioddef trosddo. Penderfynodd de Valera a llawer o weriniaethwyr eraill ddal i ymladd dros annibyniaeth lawn gan arwain at ryfel sifil rhwng 1922 a 1923.
Penodwyd Collins yn gadeirydd llywodraeth Iwerddon a oedd o blaid y cytundeb, ac arweiniodd yr ymladd yn erbyn y rhai a oedd yn gwrthod y cytundeb. Ar 22 Awst, 1922 fe laddwyd Collins yn 31 oed pan ymosodwyd ar ei gerbyd arfog yn Beal na mBlath, Sir Corc.
Mae Collins bellach yn cael ei gyfrif gan lawer yn arwr rhamantus a gafodd diwedd trasig. Mae hyd yn oed ffilm Hollywood am ei fywyd wedi’i gwneud.
Fel pennaeth milwrol a gwleidyddol galluog iawn arweiniodd criw bach o ‘guerrillas’ gan orfodi’r Ymerodraeth Brydeinig i ildio.
Cafodd y tactegau a ddatblygodd a pherffeithiodd ganddo yn ddylanwad mawr ar ryfel guerrilla yr 20fed ganrif.
Dilynwyd ei esiampl gan y comiwnydd Lenin, Mao Zedong yn Tsiena a Yitzak Shamir yn Israel. Roedd Shamir yn edmygu Collins cymaint defnyddiodd y gair-côd ‘Michael’ yn ystod rhyfel Israel dros annibyniaeth.