Cymraeg

Ymweld â’r plac

Frongoch plac Mae plac i goffau carchar Fron-goch wedi’i godi ar ochr y A4212, ffordd Y Bala i Drawsfynydd.

Mae’r plac yn ganlyniad gwaith caled Y Prifardd Elwyn Edwards, cefnogwyr lleol, cangen Lerpwl o Conradh na Gaeilge, Cymdeithas ddilwylliannol Cantref, Cymdeithas yr Iaith a diddordeb pellach gan bobl ardal y Bala, Lerpwl a thu hwnt..

Fe’i ddadorchuddiwyd ar brynhawn gwlyb ar 29 Mehefin 2002 o flaen tua chant o gefnogwyr. Chwifiwyd baneri Iwerddon a Chymru ochr yn ochr i gofio’r Gwyddelod ifanc a garcharwyd yn Fron-goch.

Mae’r plac mewn man parcio ar ochr y ffordd A4212, ychydig i fyny o’r caffi.

, , , , , , , , , ,