Cymraeg

Tryweryn a Chapel Celyn

Mae’r protestio yn erbyn boddi’r pentre nesaf i Fron-goch wedi cael effaith ddramatig ar Gymru.

Yn y 1950au penderfynodd Cyngor Dinas Lerpwl foddi pentref Capel Celyn ger Fron-goch er mwyn adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn ar gyfer *dŵr yfed i’r ddinas. Er i 35 o 36  aelod seneddol Cymru bleidleisio yn erbyn boddi’r pentref (atal ei bleidlais wnaeth y llall  – taflwyd y pentrefwyr o’u cartrefi, a boddwyd y pentref.

Achosodd Tryweryn cryn brotestio a thwf mewn cefnogaeth i achos Cymru. Cynyddodd y dadlau dros fwy o hunanlywodraeth i Gymru a statws swyddogol ac addysg Gymraeg.

Daeth ateb mwy milwriaethus gyda ffugio’r Free Wales Army a Mudiad Amddiffyn Cymru. Defnyddiodd MAC dactegau yn debyg i’r rhai a dysgodd Michael Collins yn Fron-goch a ffrwydrwyd bomiau rwystro cyflenwad trydan yn Nhryweryn.

Wedi blynyddoedd o bwyso a ddechreuwyd ar ôl Tryweryn, mae’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol ac yn rhan o’r system addysg. Ym 1999 sefydlwyd Senedd a Llywodraeth i Gymru.