Cymraeg

Carchar Gwersyll Fron-goch

Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg, ym 1916 cafodd 1,800 o garcharorion Gwyddeleg, yn cynnwys Michael Collins, eu carcharu mewn hen ddistyllfa chwisgi yn Fron-goch, ger Y Bala. Er i Fron-goch gael lle unigryw yn hanes yr ynysoedd yma, anghofiwyd amdano tan yn ddiweddar.

Daeth y gwersyll yn ysgol hyfforddi ar gyfer yr ymladd yn erbyn rheolaeth Brydeinig o Iwerddon. Gydag arweinwyr galluog yn rhoi gwersi mewn tactegau ‘guerrilla’. Cafodd y gwersyll yr enw ollscoil na réabhlóide – prifysgol y chwyldro.

Yn wreiddiol, cafodd y gwersyll ei ddefnyddio ar ddechrau’r rhyfel byd cyntaf i gadw carcharorion Almaenig mewn hen ddistyllfa a chytiau pren dros dro. Yn dilyn rhyfel y Pasg ym 1916 symudwyd yr Almaenwyr oddi yno i wneud lle i tua 1,800 o garcharorion Gwyddelig

Heblaw am Michael Collins, ymhlith y carcharorion a gadwyd yn Fron-goch oedd Dick Mulcahy, Dick McKee,Tomás Mac Curtain, Terence MacSwiney, Seán T O’Kelly, Oscar Traynor, Joe Clarke, Seán Russell, Tom Derrig, Domhnall Ó Buachalla, Seán Hales, Dr James Ryan, Brian O’Higgins a Séamus Robinson.

Roedd yr amodau yn Fron-goch yn ddrwg iawn, yr adeiladau’n oer a yn llawn llygod mawr.

Roedd y gwersyll yn gyfle ardderchog i’r gweriniaethwyr, a oedd wedi bod yn wasgaredig ar draws Iwerddon, bod ynghyd i gyd-drefnu eu camau nesaf.  Rhyddhawyd ym 1916. Dychwelodd y dynion i Iwerddon a ble ffurfion nhw’r Irish Republican Army. Gorfododd ymgyrch arfog mwy llwyddiannus yr IRA i Lywodraeth Prydain addo tynnu allan o Iwerddon.

Mae cryn ddyfalu ynglŷn a theimladau pobl yr ardal a’r carcharorion o’u gilydd? Y ddwy garfan yn Geltiaid – teimladau cymysg o gydymdeimlad a gelyniaeth efallai? Dywedir i nifer o’r Gwyddelod, yn cynnwys Michael Collins, geisio dysgu ychydig bach o Gymraeg tra yn Fron-goch.

Mae Ysgol Bro Tryweryn yn awr yn sefyll ar hen safle Gwersyll Fron-goch ac mae plac mewn Cymraeg Gwyddeleg a Saesneg ar ochr y ffordd gerllaw.

 

, , , , , , , , , ,